FFERM SOLAR A SYSTEM STORIO YNNI MEWN BATRIS (BESS) MAENOR SEALAND
Mae Renewable Connections yn ymchwilio i botensial fferm solar hyd at 89MW a system storio ynni mewn batris (BESS) o hyd at 40MW yn Sealand, Sir y Fflint. Pan fydd ar waith, gallai’r fferm solar gyflenwi digon o bŵer i hyd at 33,575 o gartrefi, gan wneud cyfraniad gwerthfawr at fynd i’r afael â newid hinsawdd yn Sir y Fflint a’r Deyrnas Unedig.
Bydd y BESS yn golygu bod modd storio ac ailddosbarthu’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn ôl yr angen. Mae technoleg BESS yn helpu i reoli’r adegau pan fydd y galw am ynni ar ei uchaf ac ar ei isaf, gan gefnogi grid trydan cenedlaethol mwy sefydlog a dibynadwy.
Wrth i ni baratoi cais i’w gyflwyno i Benderfyniad Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), rydym yn cynnal ymgynghoriad anffurfiol i rannu ein cynlluniau arfaethedig gyda chymunedau lleol ac i wahodd adborth.
Mae ein hymgynghoriad anffurfiol yn cael ei gynnal rhwng dydd Gwener 14 Mawrth a dydd Llun 21 Ebrill 2025.
Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol, a bydd y manylion yn cael eu hysbysebu ymlaen llaw. Mae pob adborth yn bwysig i ni ac rydym yn croesawu sylwadau ac adborth ar unrhyw adeg yn ystod proses ddatblygu’r prosiect – hyd at gyflwyno’r cais i PCAC.
Cyfnod hymgynghoriad anffurfiol
Fe wnaethom gynnal dau Ddigwyddiad Arddangosfa Gyhoeddus yn y Fig Tree, Eglwys Sant Bartholomew, Old Sealand Rd, Sealand, Sir y Fflint CH5 2LQ ar ddydd Mercher 26 Mawrth a dydd Iau 27 Mawrth 2025.
Os nad oeddech yn gallu mynychu’r digwyddiadau ymgynghori, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect.
Sut mae cyflwyno eich adborth
Rydyn ni’n croesawu eich adborth. Bydd yr holl sylwadau’n cael eu hadolygu a, lle bo’n bosibl, byddant yn helpu i siapio ein cynigion.
Gallwch roi eich sylwadau a chyflwyno eich adborth drwy:
E-bost: sealandmanorsolarfarm@renewableconnections.co.uk
Gallwch ysgrifennu atom yn rhad ac am ddim yn: FREEPOST Sealand Manor Solar Farm.

Ffeithiau cyflym
Arbed hyd at 16,902 tunnell o CO2 bob blwyddyn
(Wedi’i gyfrifo drwy ddefnyddio ystadegyn BEIS am allyriadau “pob ffosil tanwydd” sef 446 tunnell o garbon deuocsid fesul GWh o drydan a gyflenwir yn y Digest of UK Energy Statistics (Gorffennaf 2020)
Anghenion ynni blynyddol yr hyn sy’n cyfateb i hyd at 33,575 o gartrefi
(Wedi’i gyfrifo drwy ddefnyddio’r ystadegau diweddaraf gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) sy’n dangos bod aelwyd ddomestig gyfartalog ym Mhrydain yn defnyddio 3,578kWh)
Mae’r ffigurau hyn yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio’r cyfeiriadau canlynol. Diweddarwyd ddiwethaf 22/06/23
- https://www.gov.uk/government/statistics/subnational-electricity-and-gas-consumption-summary-report-2021
- https://www.nationalgrideso.com/news/britains-electricity-explained-2022-review
Sylwch mai dim ond y flwyddyn gynhyrchu gyntaf yw’r ffigurau hyn. Wrth i brosiectau ynni adnewyddadwy newydd gael eu hadeiladu a dod ar-lein, bydd y grid trydan yn datgarboneiddio a bydd yr allyriadau CO2 blynyddol a osgoir yn gostwng yn gyfrannol. Fodd bynnag, mae’r prosiect hwn, a’r holl brosiectau Cysylltiadau Adnewyddadwy, yn cael effaith gadarnhaol at dargedau sero net y DU.
Lleoliad
Mae’r safle sy’n cael ei gynnig ar gyfer Fferm Solar a System Storio Ynni mewn Batris (BESS) Maenor Sealand yn cynnwys tua 94.22ha o dir amaethyddol sy’n cylchdroi cnydau ar hyn o bryd. Mae’r safle arfaethedig wrth ymyl Afon Dyfrdwy, sy’n edrych dros barth diwydiannol Cei Connah, ac mae trosffordd yr A494 yn edrych drosto.
Mae ein cynlluniau’n dal i fod yn y camau datblygu cynnar. Bydd ein cynigion dylunio yn esblygu wrth i ni gasglu mewnbwn lleol ac ystyried canlyniadau ein hasesiadau amgylcheddol.

Ein cynigion
Os rhoddir caniatâd ac os caiff ei gosod, bydd y fferm solar yn gweithredu am hyd at 40 mlynedd. Ar ôl hynny, bydd yr holl osodiadau’n cael eu tynnu a bydd y tir yn cael ei adfer fel ag yr oedd, ond gyda gwell iechyd pridd a bioamrywiaeth oherwydd ei fod yn cael ei adael yn fraenar. Bydd y pŵer a gynhyrchir yn cael ei gludo i’r grid drwy gysylltiad ar y safle ar hyd y llinellau uwchben presennol ar hyd ffin de-ddwyreiniol y safle.
Bydd y paneli solar yn cael eu gosod mewn rhesi, sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin drwy’r safle. Bydd y rhesi hyn yn cael eu gogwyddo tuag at y de i ddal y mwyaf o arbelydriad solar sy’n bosibl. Ni fydd cyfanswm uchder y paneli’n fwy na 3 metr uwchben y ddaear, gyda bwlch o 0.8 metr o leiaf uwchben y ddaear.
Bydd cabanau trydanol bach yn cael eu lleoli ymysg y paneli, a bydd modd eu cyrraedd ar hyd rhwydwaith o draciau cerrig mân a fydd yn rhedeg drwy’r safle. Bydd ffens ddiogelwch o amgylch yr holl baneli er mwyn diogelu’r offer rhag i anifeiliaid mawr ddod i’r safle. Bydd camerâu teledu cylch cyfyng yn cael eu gosod bob hyn a hyn o amgylch ffin y safle er diogelwch a byddant yn wynebu am i mewn.
Bydd y BESS o fewn ffin y safle a bydd sgrinio a gwrychoedd ychwanegol yn cael eu defnyddio lle bo hynny’n briodol i gefnogi’r gwaith sgrinio.
Bydd y datblygiad yn ei gyfanrwydd hefyd yn cynnwys gwaith tirweddu ychwanegol gan gynnwys plannu gwrychoedd a rheoli bioamrywiaeth yn well. Gellir defnyddio’r tir rhwng ac o dan y paneli i wella bioamrywiaeth, gan gynnwys pori gan ddefaid, os dymunir.
Ar hyn o bryd mae’r safle wedi’i ddynodi’n un Gradd 2 ac mae wedi cael ei ddefnyddio’n bennaf fel tir âr. Mae’r safle hefyd yn rhan o ddynodiad Rhwystr Glas Cyngor Sir y Fflint, ond drwy weithredu cynllun rheoli bioamrywiaeth bydd y safle’n cael ei wella’n sylweddol ar gyfer bioamrywiaeth drwy greu amrywiaeth o gynefinoedd newydd, gan gynnig bwyd a lloches i fywyd gwyllt.
Dogfennau’r prosiect
Amserlen y prosiect
Cam 1
Gwanwyn 2024
Cam 2
Hydref 2024
Cam 3
Gwanwyn 2025
Cam 4
Haf 2025
Cam 5
Haf/Hydref 2025
Cam 6
2029 +
Yr angen am y prosiect
Ar ôl i’r Llywodraeth ddatgan bod “Argyfwng Amgylchedd a Hinsawdd” ym mis Mai 2019, dywedodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd er mwyn cyrraedd targedau ‘Sero Net’ y bydd ar y DU angen adeiladu llawer iawn o ffynonellau pŵer carbon isel newydd cyn 2050, hyd at bedair gwaith yn fwy na lefelau heddiw.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi Strategaeth Newid Hinsawdd 2022-2030, a Chynllun Gweithredu Ynni Adnewyddadwy 10 mlynedd. Mae’r Cyngor Sir yn cefnogi’n gyhoeddus y datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i’r Sector Cyhoeddus ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae hefyd wedi tynnu sylw at ei ymrwymiad i leihau Allyriadau Carbon er mwyn helpu i gyflawni targedau Cenedlaethol a lleihau’r risgiau o anwadalrwydd prisiau tanwydd ffosil a gweithio gyda chymunedau i gynyddu gwerth bioamrywiaeth a storio carbon*.
*Cynllun Gweithredu Ynni Adnewyddadwy 10 mlynedd a Hafan Newid Hinsawdd
Solar yw un o’r mathau glanaf a rhataf o ynni sydd ar gael. Bydd elfen solar Fferm Solar a System Storio Ynni mewn Batris Maenor Sealand yn gyfraniad ystyrlon at anghenion ynni Cymru a’r DU drwy ddarparu ynni gwyrdd i hyd at 33,575 o gartrefi bob blwyddyn.
Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y gallai gweithredu technolegau hyblyg fel systemau storio ynni mewn batris arbed hyd at £40 biliwn i system ynni’r DU o ran costau gweithredu erbyn 2050, a fydd yn helpu i ostwng biliau ynni unigol – Battery storage boost to power greener electricity grid – GOV.UK (www.gov.uk)
Cwestiynau Cyffredin – atebion i’ch cwestiynau
Pam dewis y lleoliad hwn?
Mae’r safle hwn wedi cael ei ddewis ar ôl llawer o waith yn edrych ar safleoedd ar draws Sir y Fflint a oedd yn ystyried mynediad a chapasiti’r rhwydwaith trydan lleol, nodweddion ffisegol y safle, a thirfeddiannwr cefnogol.
Cynhaliwyd rhagor o waith dadansoddi ac arolygon i ddeall effeithiau ecolegol a thirwedd yn well, a ffactorau eraill fel perygl llifogydd, ecoleg, tirwedd a mynediad.
Fydd hyn yn effeithio ar y ffyrdd lleol?
Bydd offer yn cael ei ddanfon i’r safle am gyfnod o ryw 39 wythnos yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd Renewable Connections yn rhoi mesurau ar waith i reoli effeithiau’r traffig adeiladu, a bydd y mesurau hyn yn cael eu cynnwys mewn Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu a fydd yn cael ei gyflwyno gyda’r cais cynllunio. Pan fydd y safle’n weithredol, bydd ymweliadau cynnal a chadw yn cael eu cynnal yn anaml.
A fydd unrhyw effaith barhaol?
Dros dro ydy ffermydd solar a systemau storio ynni mewn batris, ac felly bydd y tir yn cael ei ddychwelyd i fod yn dir amaethyddol ar ôl tynnu’r offer oddi yno ar ddiwedd oes y prosiect. Cynigir y bydd y prosiect yn para hyd at 40 mlynedd. Nid yw’r safle’n troi yn dir llwyd ac nid oes modd ei droi’n ddatblygiad preswyl na masnachol ar ôl datgomisiynu’r safle.
Oes risg i iechyd oherwydd ffermydd solar?
Nac oes – mae solar yn dechnoleg oddefol nad yw’n cynhyrchu unrhyw sgil-gynhyrchion niweidiol.
Oes risg i iechyd oherwydd systemau storio ynni mewn batris?
Nac oes, batris LFP (neu Ffosffad Haearn Lithiwm) fydd yn cael eu defnyddio yn BESS Maenor Sealand. Mae batris LFP yn sefydlog yn thermol ac yn gemegol, heb unrhyw risg o allyriadau nwyon na mygdarth. Maent wedi’u gwneud o ddeunyddiau diwenwyn, fel haearn, copr a graffit, felly maent yn cael llai o effaith amgylcheddol o ganlyniad i gloddio, prosesu ac ailgylchu.
Pa mor hir fydd y prosiect yna?
Cynigir y bydd y prosiect yn para hyd at 40 mlynedd. Ar ôl hynny, byddai’r datblygiad yn cael ei ddatgomisiynu, a byddai’r safle’n dychwelyd i ddefnydd amaethyddol. Bydd cynllun datgomisiynu ar gyfer y safle yn cael ei ddarparu gyda’r cais cynllunio.
Ydy ffermydd solar yn swnllyd?
Nac ydyn, nid yw ffermydd solar yn swnllyd. Nid ydynt yn cynhyrchu dim mwy o sŵn na lefelau cefndirol arferol o sŵn sy’n debyg i wynt neu draffig pell y tu hwnt i ffin y safle.
Ydy systemau storio ynni mewn batris yn swnllyd?
Nac ydyn, er bod BESS yn cynhyrchu rhywfaint o sŵn trydanol lefel isel o’r gwrthdröydd, y switsys ac offer y ffan, ni ellir sylwi ar y sŵn y tu hwnt i ffin y safle, ac ni fyddai’n cael effaith niweidiol ar unrhyw dderbynyddion preswyl cyfagos. I ddangos hyn, bydd Asesiad o’r Effaith ar Sŵn yn cael ei gyflwyno gyda’r cais cynllunio.
Ydy’r batris yn ddiogel?
Mae’r modiwlau storio batris wedi’u cynllunio i fod â risg isel iawn o fethiant, a risg hyd yn oed yn is y byddai unrhyw fethiant yn arwain at dân. Os bydd tân yn digwydd, mae offer canfod tân ac atal tân yn cael ei osod ym mhob modiwl storio batri er mwyn sicrhau bod unrhyw dân yn aros dan reolaeth. Bydd system atal nwyon anadweithiol ym mhob modiwl hefyd. Bydd y rhain yn cael eu dylunio i ddiffodd unrhyw danau y bydd y system monitro yn eu canfod.
Beth yw’r manteision i’r gymuned leol?
Mae Renewable Connections wedi ymrwymo i gynyddu’r manteision i’r gymuned leol. Byddwn yn sefydlu Cronfa Budd Cymunedol i gefnogi achosion da lleol. Bydd y prosiect yn cynnwys amrywiaeth o welliannau ecolegol a bywyd gwyllt ar y safle.
Cysylltwch â ni
E-bost: sealandmanorsolarfarm@renewableconnections.co.uk
Rhadffôn: 0800 254 5011
FREEPOST Sealand Manor Solar Farm
Mae Renewable Connections wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd ac i gydymffurfio â chyfraith y DU ar faterion preifatrwydd a diogelu data. Mae ein polisi preifatrwydd yn egluro sut rydyn ni’n casglu, yn defnyddio, yn rhannu ac yn diogelu gwybodaeth bersonol.